Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

22 Ionawr 2018

SL(5)163 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru)

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 ("y Rheoliadau Adeiladu") mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 37A(1) o'r Rheoliadau Adeiladu. Mae rheoliad 37A o'r Rheoliadau Adeiladu yn gymwys pan fo gwaith adeiladu yn cynnwys codi neu newid defnydd materol o'r mathau o adeiladau a restrir ym mharagraff (1). Pan fo'r rheoliad hwnnw'n gymwys, rhaid darparu system atal tân awtomatig i'r adeiladau hynny.

Mae'r mathau o adeiladau y mae angen rhoi ynddynt system atal tân awtomatig yn cynnwys ystafelloedd at ddibenion preswyl heblaw'r rhai a restrir fel eithriadau. Roedd hostelau wedi'u heithrio o'r gofyniad yn flaenorol. Effaith y gwelliant yn rheoliad 2(2) yw bod yn rhaid i systemau atal tân awtomatig gael eu darparu yn awr mewn ystafelloedd hostelau, ac eithrio'r ystafelloedd hynny sy'n darparu llety dros dro i'r rhai sy'n preswylio fel arfer mewn man arall.

Mae Rheoliad 2(3) yn diweddaru'r rhestr o gynlluniau person cymwys sy'n ymddangos  yn Atodlen 3 y Rheoliadau Adeiladu (cynlluniau hunan-ardystio ac eithriadau rhag gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu osod cynlluniau llawn). Mae cynlluniau person cymwys yn gynlluniau y gall gosodwyr gofrestru â nhw i hunan-ardystio bod eu gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.

Deddf Wreiddiol: Deddf Adeiladu 1984

Fe’u gwnaed ar: 12 Rhagfyr 2017

Fe’u gosodwyd ar: 15 Rhagfyr 2017

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2).

 

SL(5)164 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("y Ddeddf") yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy'n disodli'r system a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae adran 52 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru (yn gweithredu fel rheoleiddiwr y gwasanaeth) i roi hysbysiad o gosb i unigolyn yn lle dwyn achos am drosedd, ond dim ond mewn perthynas â’r troseddau hynny a ragnodir mewn rheoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r troseddau y gellir eu trin trwy hysbysiad cosb.

Deddf Wreiddiol: Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016

Fe’u gwnaed ar: 14 Rhagfyr 2017

Fe’u gosodwyd ar: 18 Rhagfyr 2017

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018

SL(5 169 - Teitl yr OS

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer amryw faterion sy'n ymwneud â gweinyddu treth trafodiadau tir.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn nodi'r amgylchiadau lle mae'n rhaid i Awdurdod Refeniw Cymru ("ACC”) ddyroddi tystysgrif ar ôl derbyn ffurflen trafodiadau tir a materion gweinyddol eraill sy'n ymwneud â'r dystysgrif.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn rhagnodi tystiolaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno i'r WRA lle mae rhyddhad yn cael ei hawlio o dan Atodlen 11 Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn achos rhai trafodiadau tir sy'n gysylltiedig â bondiau buddsoddi cyllid amgen.

Deddf Wreiddiol:  Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017

Fe’u gwnaed ar: 4 Ionawr 2018

Fe’u gosodwyd ar: 8 Ionawr 2018

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018

SL(5)167 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018 

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swm y rhent perthnasol o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 (Prydlesi) i Dreth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Deddf LTTA) at ddibenion diffinio "y swm penodedig" ym mharagraffau 34 a 35 o'r Atodlen honno. Y swm a bennir yw £9,000.

Mae Atodlen 6 i'r Ddeddf LTTA yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso'r Ddeddf mewn perthynas â phrydlesi.  Mae Rhan 5 o Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch swm y dreth sy'n daladwy ar drafodiadau prydles.  Mae paragraff 33 o Atodlen 6 yn cadarnhau bod y dreth a godir o dan yr Atodlen hon yn ychwanegol i'r dreth a gyfrifir o dan y darpariaethau eraill; mae paragraff 34 yn ddarpariaeth gwrthweithio osgoi a gynlluniwyd i atal camdriniaeth bosibl mewn perthynas â thrafodiadau prydles. Mae paragraff 35 yn darparu ar gyfer ystyriaeth heblaw rhent am brydles gymysg.  Mae paragraff 36 yn diffinio “y rhent perthnasol”, “y swm penodedig” ac “y rhent blynyddol”.  Yn LTT dim ond rhent a dalwyd am eiddo dibreswyl sy'n cael ei drethu o dan y rheolau hyn.  Mae rhenti a dalwyd o dan brydlesi preswyl y tu allan i gwmpas y dreth.

Deddf Wreiddiol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: heb ei nodi

 

 

 

SL(5)168 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygiad i Atodlen 5) Rheoliadau 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 i Ddeddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ("yr LTTA") i ymestyn cwmpas yr eithriadau o'r cyfraddau sy'n gymwys i drafodiad cyfraddau uwch.

Mae Atodlen 5 (Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch) i'r LTTA yn darparu'r rheolau sy'n nodi pan fo caffael budd mawr (neu fudd a ystyrir yn fudd mawr) yn drafodiad eiddo preswyl cyfradd uwch. Mae'r gwelliant technegol i Atodlen 5 a wneir gan y Rheoliadau hyn yn darparu, pan fo parau priod (yn cynnwys personau mewn partneriaeth sifil a phartneriaid sifil) yn caffael buddiannau newydd neu ychwanegol yn eu prif breswylfa bresennol, nid yw'r trafodiad yn drafodiad  eiddo preswyl cyfradd uwch hyd yn oed pan nad oedd gan un o'r pâr priod fudd buddiol yn y brif breswylfa honno yn flaenorol. Mae'r newid technegol hwn er mwyn sicrhau bod y rheolau cyfraddau uwch yn cael eu cymhwyso'n gyson i barau priod ac o fewn Atodlen 5.

Deddf Wreiddiol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: heb ei nodi

SL(5)171 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r gyfradd safonol gyntaf, y gyfradd is a'r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Bydd y cyfraddau'n berthnasol i waredu trethadwy a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018. Mae Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ("y Ddeddf") yn nodi beth yw gwarediad trethadwy.

Y gyfradd safonol fydd £88.95, y gyfradd is fydd £2.80 a'r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi fydd £133.45.

Yn dilyn gosod y cyfraddau treth yn y Rheoliadau hyn, bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer i newid cyfraddau yn y dyfodol mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi fydd yn dod i rym ar unwaith, gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol dros dro y darperir ar ei chyfer yn adran 95 y Ddeddf.

Deddf Wreiddiol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: heb ei nodi

SL(5)172 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chyflwyno treth trafodiadau tir ("LTT") yng Nghymru gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ("y Ddeddf LTTA"). Mae'r darpariaethau'n sicrhau bod trafodiadau sy'n digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 yn derbyn triniaeth sy'n gyson, gan olygu na chaiff trafodiadau eu trethu ddwywaith o dan y LTT a Threth Tir y Dreth Stamp ("SDLT"), neu'n peidio â chael eu trethi o gwbl. 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn sicrhau bod trefniadau sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ac yr hawliwyd rhyddhadau penodol (sy'n bodoli yn y ddwy gyfundrefn) ar eu cyfer yn parhau i fod yn destun rhyddhad o dan y TTL (yn amodol ar fodloni rhai amodau). Ymhellach, bydd y Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer rheolau trosiannol at ddibenion penderfynu a yw trafodiad a gwblhawyd ar neu cyn 26 Tachwedd 2018 yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch lle mae prif breswylfa unigolyn yn cael ei ddisodli.

Deddf Wreiddiol: Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017

Fe’u gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: heb ei nodi

Yn dod i rym ar: heb ei nodi